Project Llyfr Esgobol Bangor

Mae project Llyfr Esgobol Bangor yn fenter a ddeilliodd o ddathliadau 125 mlwyddiant Prifysgol Bangor. Trwy gydweithio rhwng y brifysgol a Chadeirlan Bangor, mae’r project wedi sicrhau bod Llyfr Esgobol Bangor – trysor cudd a gwerthfawr o Fangor y canol oesoedd – ar gael i’w weld ar draws y byd trwy wefan barhaol, cydraniad uchel. Mae’r Llyfr Esgobol yn eiddo i Ddeon a Chabidwl Cadeirlan Bangor a chaiff ei gadw er diogelwch yn archif Prifysgol Bangor ond ceir ei arddangos yn y gadeirlan ar achlysuron arbennig.

Mae Llyfr Esgobol Bangor yn llawysgrif eithriadol. Dyma’r unig lawysgrif litwrgaidd gyflawn i oroesi o esgobaeth ganoloesol Bangor, ac yn un o ddau lyfr yn unig o Gymru ganoloesol i gynnwys nodiant plaengan sylweddol. Ceir arysgrif ar y llawysgrif sy’n nodi ei fod yn eiddo’n wreiddiol i Anian ‘Sais’, esgob Bangor rhwng 1309 a 1328, ac mae’r Llyfr Esgobol bellach wedi cael ei ddyddio’n ôl i chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n cynnwys testunau a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer gwasanaethau litwrgaidd i’w cynnal gan esgob: cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd; gorseddu a chysegru archesgob a bendithion arbennig a ddywedir yn ystod canon yr Offeren ac ar achlysuron penodol eraill. Mae’r llawysgrif hefyd yn cynnwys corpws sylweddol iawn o blaengan, pob un wedi ei gopïo ar erwydd pedair llinell. Nid oes cofnod o nifer o’r siantiau hyn mewn unrhyw ffynhonnell arall.

Mae project Llyfr Esgobol Bangor yn rhoi mynediad am ddim i bawb at y llawysgrif unigryw hon. Mae’r wefan hon yn galluogi defnyddwyr i archwilio’r llyfr yn ei gyfanrwydd, chwyddo’r testun i weld ei lythrennu a’i addurniadau cain a’i nodau cerddorol, a gwrando ar rai o’r siantiau sydd ynddo yn cael eu perfformio.