Amdanom ni

Mae'r project yn cynnwys cydweithredu rhwng Cadeirlan Bangor ac Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau ac Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Cyfarwyddwyd y project gan Dr Sally Harper (gynt yn uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Cerddoriaeth), sydd wedi gweithio ar broject y Llyfr Esgobol dros nifer o flynyddoedd, a Dr Sue Niebrzydowski (Darllenydd Llenyddiaeth Saesneg Ganoloesol), yn gweithio ar y cyd â Stephen Rees (Darlithydd Cerddoriaeth) a'r  Athro Helen Wilcox (Athro Llenyddiaeth Fodern Gynnar). Diolch hefyd i Mr Einion Wyn Thomas (cyn archifydd y brifysgol).