Llyfr Esgobol Bangor mewn Cyd-destun

Litwrgi a Cherddoriaeth

Mae ymchwil parhaus i gynnwys litwrgaidd a cherddorol y llawysgrif a'i chyd-destunau Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol yn ganolog i ymchwil Sally Harper, un o gyfarwyddwyr y project. Gellir lawrlwytho erthygl estynedig Dr Harper ar y Llyfr Esgobol isod.

Sally Harper, ‘The Bangor Pontifical: a Pontifical of the Use of Salisbury’, Welsh Music History, 2 (1997), 65–89. Cliciwch yma i lawrlwytho'r erthygl.

Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources (Aldershot, 2007), 231–248.

Mae dadansoddiad o'r seremoni esgobol ar gyfer cysegru eglwys hefyd yn sôn am Lyfr Esgobol Bangor: gweler Thomas Kozachek,  ‘The repertory of chant for dedicating churches in the Middle Ages: music, liturgy and ritual’ (PhD dissertation, Harvard University, 1995).

Hanes Celf

Mae'r addurniadau tudalen lawn a'r addurniadau ar yr ymylon yn y Llyfr Esgobol yn datgelu cysylltiadau pwysig â llawysgrifau eraill o'r un cyfnod sy'n gysylltiedig â'r ‘Queen Mary Psalter School a'r 'East Anglian School' o oliwiad llawysgrif. Rhestrir rhai o'r astudiaethau pwysicaf am y ddwy ysgol isod.

Lucy F. Sandler, Gothic Manuscripts 1285–1385 (A Survey of Manuscripts Illuminated in the British Isles, I) (London, 1986).

Lynda Dennison, ‘Liber Horn, Liber Custumarum and Other Manuscripts of the Queen Mary Psalter Workshops’, in L. Grant (ed.), Medieval Art, Architecture and Archaeology in London (British Archaeological Conference Transactions for the year 1984), 118–31.

Lynda Dennison, ‘The Technical Mastery of the Macclesfield Psalter: a Stylistic Appraisal of the Illuminators and their Suggested Origin’, Transactions of the Cambridge Bibliographical Society, XIII, pt. 3 (2009), 253-288.

R. Marks and N. Morgan, The Golden Age of English Manuscript Painting 1200-1500, New York, 1981 (repr. 1996).

A.D. Stanton, The Queen Mary Psalter: A Study in Affect and Audience (Philadelphia, 2001)

G. Warner, Queen Mary´s Psalter (London, 1912)

Michael A. Michael, ‘The Harnhulle Psalter-Hours: An Early Fourteenth-Century English Illuminated Manuscript at Downside Abbey’, Journal of the British Archaeological Association, 134 (1981), 81–99.

Norton, C., Park, D., and Binski, P., Dominican Painting in East Anglia: The Thornton Parva Retable and the Musee de Cluny Frontal, Woodbridge 1987

Llawysgrifau Litwrgaidd sy'n gysylltiedig â Chymru

Ychydig iawn o ffynonellau litwrgaidd sy'n bodoli o Gymru ganoloesol, a dim ond dau sydd â nodiant cerddorol sylweddol. Y naill yw Llyfr Esgobol Bangor; y llall yw MS 20541 E, the ‘Penpont Antiphoner’, yn y Llyfrgell Genedlaethol sy'n cynnwys gwasanaeth unigryw Dewi Sant. (Rhoddir rhestr lawn o lawysgrifau litwrgaidd gyda chysylltiadau Cymreig yng ngwaith Sally Harper Music in Welsh Culture before 1650, 371-87.)
Rhestrir astudiaethau ac adnoddau allweddol isod.

National Library of Wales MS 20541E: The Penpont Antiphonal, ed. O. T. Edwards, Institute of Medieval Music Facsimile rhif 22 (Ottawa, 1997).

Owain Tudor Edwards, Matins, Lauds and Vespers for St David’s Day: The Medieval Office of the Welsh Patron Saint in National Library of Wales MS 20541 E (Woodbridge, 1990).

Daniel Huws, ‘St David in the Liturgy: A Review of Sources’, in St David of Wales: Cult, Church and Nation, ed. J. W. Evans a J. M. Wooding (Woodbridge, 2007).

Caiff cysylltiadau Cymreig y Llyfr Esgobol ei hun eu harchwilio yn yr astudiaeth ganlynol hefyd, er ei bod wedi dyddio ychydig:

T. Morris, ‘The Liber Pontificalis Aniani of Bangor’, Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn (1962), 55–78.

Llyfr Esgobol Coventry

Mae gan Lyfr Esgobol Coventry (Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt MS Ff.vi.9) ran bwysig ym mhroject Llyfr Esgobol Bangor, am ei fod yn fodd i waith adferol damcaniaethol gael ei wneud ar agoriad defod Bangor ar gyfer cysegru eglwys, lle mae pum dalen ar goll ar ddechrau’r llawysgrif.

Copïwyd llawysgrif Coventry yn y 13eg ganrif at ddefnydd esgobion esgobaeth Coventry a Chaerlwytgoed (Lichfield) ac, er ei bod yn llai o faint ac yn llai addurnedig na’r llyfr cyfatebol o Fangor, mae gan y ddwy lawysgrif lawer o ddeunydd testunol a cherddorol yn gyffredin. Os edrychir ar agoriad defod gysegru Coventry (ff.1r-15v), ceir awgrym bod pymtheg o alawon plaengan, sawl gweddi, ynghyd â chyfres o gyfarwyddiadau ar ddefodau, ar goll o ddefod gyfatebol Bangor, sy’n dechrau hanner ffordd trwyddi, gydag eitem anghyflawn ar f.12r. O hynny ymlaen, mae’r ddwy ddefod gysegru yn parhau mewn modd debyg iawn (ff.16r-20r yn Llyfr Esgobol Coventry, ff.12r-20r yn Llyfr Esgobol Bangor).

Darperir y delweddau digidol isod trwy Archif Delweddau Digidol Cerddoriaeth Ganoloesol, ac maent wedi’u hatgynhyrchu trwy ganiatâd caredig Syndicâd Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt. Mae disgrifiad llawn o Lyfr Esgobol Coventry i’w weld ar wefan DIAMM.

Llawysgrifau Litwrgaidd Cysylltiedig