Digwyddiadau Cyhoeddus

Ym mis Hydref 2010 y Llyfr Esgobol oedd testun Darlith Gyhoeddus T. Rowland Hughes, darlith hanes celf gyhoeddus a gynhelir gan Brifysgol Bangor. Traddodwyd y ddarlith gan Dr Lynda Dennison FSA ac yn ei hôl hi, yn seiliedig ar y goliwiad, lluniwyd Llyfr Esgobol Bangor tua 1320 gan artist yn esgobaeth Elái a weithiai ym maes artistiaid a oedd yn gysylltiedig â Sallwyr y Frenhines Mary a llawysgrifau cysylltiedig.

Ar 18 Rhagfyr 2010 bu Project Llyfr Esgobol Bangor yn rhan o raglen BBC Radio 3 BBC Tom Service, 'A Welsh Christmas'. Roedd y Llyfr Esgobol hefyd yn ymddangos fel testun yng ngholofn wythnosol blog y Guardian.

Ar 6 Chwefror 2011, cynhaliwyd gwasanaeth bendithio dwyieithog arbennig, 'Yr Esgob a'i Lyfr', yng Nghadeirlan Bangor i ddathlu dychweliad y llawysgrif ar ôl ei chyfnod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Cyflwynwyd y Llyfr Esgobol i Ddeon Bangor, y Gwir Barchedig Alun Hawkins, gan yr Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes, a chafodd ei fendithio gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John. Roedd y Dirprwy Is-gangellorion Mr Wyn Thomas a'r Athro Colin Baker a'r Athro David Shepherd hefyd yn bresennol.

Trefnwyd y gwasanaeth yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ganolfan Ryngwladol Bangor ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, gan gydweithredu â’r Eglwys Gadeiriol. Canwyd cerddoriaeth gan Gôr yr Eglwys Gadeiriol, schola o ferched yn unig o’r brifysgol, a chantor proffesiynol. Roedd sawl un o’r alawon plaengan o Lyfr Esgobol Bangor wedi eu trawsgrifio’n benodol ar gyfer y gwasanaeth, a dwy ohonynt yn wybyddus o’r llawysgrif hon yn unig.

Roedd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys darlleniadau o Fuchedd ganoloesol Deiniol Sant (m. 584), noddwr ac Esgob Bangor, y bu ei fynachlog yn sefyll ar safle’r Gadeirlan bresennol. Bendithiwyd y Llyfr Esgobol gan ddefnyddio geiriau bendith ganoloesol, a oedd wedi eu cyfieithu a’u haddasu o lawysgrif o eiddo Edmund Lacy, Esgob Caer-wysg o 1420 hyd at 1455.

Defnyddiwyd un o’r bendithion o Lyfr Esgobol Bangor ym mis Mehefin 2011 mewn defod Ladin arbennig i gysegru urddwisgoedd a gwrthrychau litwrgaidd a wnaed i’w defnyddio yn eglwys ganoloesol Teilo Sant, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Comisiynwyd yr holl eitemau hyn, sy'n seiliedig ar ddeunyddiau gwreiddiol o'r canol oesoedd, fel rhan o’r Profiad o Addoli mewn Eglwys Gadeiriol ac Eglwys Blwyf, project ymchwil dan arweiniad Canolfan Ryngwladol Bangor ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, i’w defnyddio mewn perfformiadau o litwrgïau canoloesol. Roedd rhaid bendithio pob eitem cyn ei defnyddio yn yr eglwys, a buwyd yn archwilio bendithion canoloesol addas gyda chysylltiadau â Chymru. Dewiswyd bendith ar gyfer urddwisgoedd o lawysgrif Bangor (f.154).