Y Llawysgrif a'i Chomisiynydd

Roedd Llyfr Esgobol Bangor, yr unig lawysgrif litwrgaidd gyflawn sydd wedi goroesi o esgobaeth ganoloesol Bangor, yn perthyn yn wreiddiol i Anian 'Sais', esgob Bangor, ac mae'n dyddio'n ôl i chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n ddigon posib bod Anian Sais wedi comisiynu'r Llyfr Esgobol tua 1320, gan artist yn esgobaeth Trelái a oedd yn gweithio gydag artistiaid a oedd yn gysylltiedig â Sallwyr y Frenhines Mary a llawysgrifau cysylltiedig. Mae'n cynnwys testunau, cerddoriaeth a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer gwasanaethau litwrgaidd i'w cynnal gan esgob: cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd; gorseddu a chysegru archesgob a bendithion arbennig a ddywedir yn ystod canon yr Offeren ac ar achlysuron penodol eraill. Mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys corpws sylweddol iawn o blaengan, pob un wedi ei gopïo ar erwydd pedair llinell. Mae dros 100 o siantiau côr wedi cael eu hysgrifennu'n llawn, caiff rhai ohonynt hefyd eu dyblygu mewn rhannau eraill o'r Llyfr Esgobol. Mae nifer o'r alawon yn wybyddus o’r llawysgrif hon yn unig. Mae presenoldeb cymaint o gerddoriaeth ysgrifenedig yn awgrymu bod y llawysgrif wedi ei rhannu gan schola cysylltiedig yr esgob, term sy'n ymddangos sawl gwaith yng nghyfarwyddiadau'r llawysgrif ac sy'n amlwg yn awgrymu grŵp bach o gantorion.

Adlewyrchir swyddogaeth bersonol y Llyfr Esgobol yn ei faint a'r ffaith ei fod yn gludadwy: yn wreiddiol dim ond 300 mm x 175 mm oedd ei faint (er ei fod wedi cael ei dorri'n ddiofal ers hynny). Copïwyd ei destun gan un ysgrifennydd a gofnododd enw'r perchennog cyntaf ar y dudalen olaf, f. 164v: ‘Iste liber est pontificalis domini aniani bangor’ episcopi’ [y llyfr hwn yw Llyfr Esgobol Anian, archesgob Bangor]. Mae bron yn sicr mai 'Anian Sais', esgob Bangor 1309−28 yw 'Anian', yn hytrach na'i ragflaenydd, Anian I, esgob o 1267 i 1305/6. Atgyfnerthir y  dybiaeth hon gan y goliwiad addurnedig tudalen lawn ar f. 8v o esgob yn bendithio eglwys sydd â chysylltiadau cryf â llawysgrifau eraill o chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Serch hynny, mae gan y Llyfr Esgobol rywfaint o gysylltiad ag Anian I, y cyfeirir ato sawl gwaith mewn cyfres o ychwanegiadau o'r bymthegfed ganrif ar y tudalennau rhwymo olaf. Mae pob un o'r rhain yn cadarnhau cysylltiad y llyfr ag esgobion Bangor, ac yn awgrymu eu bod yn gopïau o ddogfennau cynharach.

Arhosodd y Llyfr Esgobol ym meddiant esgobion Bangor am ganrifoedd; mae nodyn ar f.164v yn cofnodi bod Richard Ednam (esgob 1465−94) wedi ei roi i'r gadeirlan ym 1485, ac mae dau enw arysgrifedig arall yn awgrymu bod yr esgob cyntaf o oes Elisabeth, Roland Mericke, wedi ei dynnu'n ôl i'w gadw'n ddiogel ar adeg pan ddinistriwyd cymaint o lyfrau eraill. Mae nodyn arall ar flaen y dudalen rwymo flaen yn cofnodi iddo gael ei 'adfer' i'r eglwys gadeiriol gan yr Esgob Humphrey Humphreys ym 1701, efallai yn dilyn trallod y Gymanwlad. Mae'r llawysgrif yn dal i fod yn eiddo i ddeon a chabidwl Cadeirlan Bangor, ond erbyn hyn caiff ei chadw yn Archif Prifysgol Bangor.

Fel llyfr a wnaed yn benodol at ddefnydd personol yr esgob, mae'r Llyfr Esgobol yn anochel yn pwysleisio'r achlysuron hynny lle'r oedd rhaid wrth bresenoldeb esgob neu archesgob yn benodol. Ymhlith y defodau esgobol canoloesol pwysicaf oedd cysegru eglwysi a  chau creiriau o dan yr allor; ordeinio a derbyn i'r offeiriadaeth; gofwy ac esgymuno; eneinio brenhinoedd; conffyrmasiwn; proffesiwn mynach neu leian; a chysegru gwrthrychau neu unigolion amrywiol. Byddai esgobion hefyd yn rhoi bendith arbennig yn ystod Canon yr Offeren (ar ôl y Pater Nosterar ddydd Sul a dyddiau gŵyl, ac mae Llyfr Esgobol Bangor yn cynnwys cylch o ryw 200 o fendithion o'r fath ar gyfer y flwyddyn litwrgaidd gyfan. Ond fel llawer o lyfrau esgobol eraill, mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys nifer o ddefodau ychwanegol a weinyddir fel arfer gan offeiriad plwyf yn hytrach nag esgob: y rhai i ddiarddel edifeirwyr ar ddydd Mercher y Lludw a'u cymodi ar ddydd Iau Cablyd, yr eneiniad olaf, cludo corff i'r eglwys, claddu, a phriodas, ynghyd â grŵp o offerennau addunedol.

Er nad oes gan y Llyfr Esgobol olion o arfer 'Cymreig' lleol (a dim arwydd o gwbl o'r enwog 'Esgoblyfr Arfer Bangor' litwrgaidd a grybwyllir yn Llyfr Gweddi Gyffredin 1548), mae'n dyst pwysig iawn i ledaeniad cynnar  Esgoblyfr Arfer Sarum (Caersallog) y tu hwnt i'r esgobaeth a'r dalaith honno. Roedd Esgoblyfr Arfer Sarum wedi cyrraedd Tyddewi mor gynnar â 1224 ac mae'n debyg iddo gael ei fabwysiadu yn esgobaeth Llanelwy ym 1284, ac yn esgobaeth Bangor yn fuan wedyn. Llyfr Esgobol Bangor yw'r llyfr esgobol mwyaf cyflawn sy'n gysylltiedig â 'theulu Sarum' y gwyddys ei fod wedi goroesi, ac mae ei nodiant anarferol o lawn a'r amrywiaeth eang o seremonïau yn ein gadael â chasgliad hynod werthfawr o ddeunydd litwrgïaidd.