Cadw a Digideiddio Llyfr Esgobol Bangor

Rhan bwysig o'r project fu cadw a digideiddio'r Llyfr Esgobol. Ariannwyd cam cyntaf y project gan grant hael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a ddechreuodd ym mis Chwefror 2010 ac a ddaeth i ben flwyddyn yn ddiweddarach. Yn dilyn ei ddadrwymo yn Archif Prifysgol Bangor gan Mr Julian Thomas, Pennaeth yr Uned Gadwraeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cafodd y Llyfr Esgobol ei ddigideiddio gan Dr Julia Craig-McFeely, Cyd-gyfarwyddwr y Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM). Yna aethpwyd ag ef i Uned Gadwraeth LlGC yn Aberystwyth i wneud gwaith atgyweirio arbenigol arno a chafodd orchudd newydd a bocs newydd. Dychwelodd y Llyfr Esgobol i Fangor ym mis Hydref 2010, a chafodd ei ailgysegru gan Esgob Bangor ym mis Chwefror 2011 mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Bangor, gyda cherddoriaeth o'r Llyfr Esgobol a darlleniadau o'r gwaith canoloesol Buchedd Sant Deiniol.

Lluniau o Julian Thomas yn dadrwymo'r Llyfr Esgobol (Chwefror 2010):